Archebu Tocynnau ar gyfer y "Mae Antur Stiniog yn lle anhygoel i feicio!"
Steve Peat
Pencampwr Cwpan y Byd Beicio Lawr Allt droeon.
Yn swatio ymhlith copaon trawiadol Eryri, mae Antur ’Stiniog yn ganolfan feicio mynydd dan arweiniad y gymuned sy'n cynnig 14 o lwybrau disgyrchiant, o lwybrau glas i ddechreuwyr hyd at y llwybrau du mwyaf heriol. Mae cyffro'r uplift a harddwch naturiol yr ardal yn gwneud pob diwrnod yn brofiad unigryw.
Yma, mae popeth yn barod ar dy gyfer - llogi beic lawr allt Saracen o'r radd flaenaf a galw heibio ei'n caffi ar y safle i ail-lenwi'r tanc. Burrito BlasusManteisia ar ein siop feics, ein gorsaf golchi beiciau a'n cawodydd, a hynny i gyd gyda golygfeydd trawiadol dros Flaenau Ffestiniog. Fel menter gymdeithasol ddi-elw a sefydlwyd yn 2007, mae'r gymuned wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud. Yn ogystal â chynnig un o'r profiadau downhill gorau yn y DU, rydyn ni'n ymrwymedig i adfer coetiroedd lleol mewn partneriaeth â Y Dref Werddgan gryfhau bioamrywiaeth a gwydnwch un goeden ar y tro. Dewch i ymuno â ni am reid.
Dyddiad ** 12:2026-16:30 ** £19
i fwcio galwch: 01766 238 007
Bydd Burrito Blasus ar agor gyda'r bwyd Mecsicanaidd gorau a SmokeHouse newydd
Yn darparu eich holl anghenion beicio mynydd...
#anturstiniog