Mae gennym ni 14 llwybr sy'n amrywio o radd werdd i radd ddu ac rydym ni wedi cael canmoliaeth ryngwladol gan gyhoeddiadau beicio mynydd a beicwyr fel ei gilydd. Mae gwasanaeth cludo ar gyfer pob llwybr (rydym yn gyfleuster cludo yn unig) sy'n cael ei ystyried fel y gwasanaeth cludo gorau yn y Deyrnas Unedig.
Plwg a Plu Llwybr gwyrdd Antur i ddechreuwyr: 2km o lwybr sengl sy'n llifo'n hyfryd |
|
Jympar Mae dwy ran i'r llwybr lawr allt graddfa las, cyn rhoi'r dewis i chi - hanner ffordd - o ymuno â'r llwybr gwyrdd neu'r coch... 'Cymysgwch eich lliwiau!' |
|
Shafft Mae cyfres o lwybrau muriog yn eich troelli yr holl ffordd i lawr yn ôl i'r man cychwyn eto! |
|
Capsan Llwybr mwy naturiol heb arwyneb gyda digon o gyfle i hedfan. |
|
Drafft Croeswch o'r bont uchaf i'r man cychwyn ar y llwybr technegol yma. |
|
Lein Meehhh Mae dros 30 naid ar y llwybr hwn y mae hi’n bosib rhowlio drostynt i gyd……'I'r awyr amdani'! |
|
Trac Pwmp Trac naid ger y maes parcio sy’n addas i bob gallu. |
|
Sgrybadyb Sawl naid ac ysgafell i'ch arwain fel y gwynt at y Car Gwyllt! |
|
Car Gwyllt Llwybr coch technegol a chreigiog! |
|
Bendigeidfran Tynn, troellog, a llwyth o hwyl naturiol. Yn gadael y Powdwr Du o'r bont isaf. Llwybr gwyllt a gwlyb. |
|
Powdwr Du Creigiog a thechnegol a digon o gyfle i hedfan. Ddim i'r gwangalon! |
|
Neidiau’r Cae Y neidiau mwyaf ar y safle yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. |
|
Ail bowder Mae'n gadael y Powdwr Du ac yn cynnig llwybr ychydig llai technegol. |
|
Y Du Garw, creigiog, anwastad, a didrugaredd! Ein llwybr mwyaf technegol - fe'ch rhybuddiwyd! |