Siop Feiciau: Mae gennym ni amrywiaeth o gynhyrchion o safon ar gyfer eich holl anghenion beicio mynydd gan frandiau yn cynnwys Burtec, 100%, Maxxis a mwy, yn ogystal â'n hystod ein hunain o ddillad brand.
Golchfa Feiciau: Mae ein golchfa feiciau ecogyfeillgar a noddir gan Kingud Products yn sicrhau eich bod yn gadael gyda'ch beic yn disgleirio!
Llogi Beiciau: A range of Saracen Myst downhill bikes available to hire on site.
Caffi: Mae ein caffi sydd newydd ei adnewyddu yn lle gwych i gymdeithasu, ac yn lle hyd yn oed yn well i’ch tanio at eich taith, gyda bwyd a chacennau cartref lleol. Mae gennym ni lond platiau o seigiau blasus sy'n amrywio o gawl cartref a brechdanau i Frecwast Traddodiadol Cymreig a'r 'Byrgyr Arbennig Stiniog' gwych (nid ar gyfer y gwangalon!) Mae bwydlen brecwast a chinio llawn ar gael drwy'r dydd, ynghyd â detholiad o gacennau cartref, te a choffi. Yn ystod misoedd yr haf, beth am fanteisio ar ein seddau awyr agored a’r ardal teras to sy'n edrych dros y trac naid, ac sy'n rhoi golygfa wych dros y llwybrau lawr allt.