Cymraeg Saesneg

    

Archebu Tocynnau ar gyfer y
Gwasanaeth Cludo

Cwestiynau Mwyaf Cyffredin

Oes yna fwyd ar y safle?
Oes, mae ein caffi sydd newydd ei adnewyddu yn lle gwych i gymdeithasu, ac yn lle hyd yn oed yn well i’ch tanio at eich taith, gyda bwyd a chacennau cartref lleol. Mae gennym ni lond platiau o seigiau blasus sy'n amrywio o gawl cartref a brechdanau i Frecwast Traddodiadol Cymreig a'r 'Byrgyr Arbennig Stiniog' gwych (nid ar gyfer y gwangalon!) Mae bwydlen brecwast a chinio llawn ar gael drwy'r dydd, ynghyd â detholiad o gacennau cartref, te a choffi.
Mae gennym ddetholiad blasus a chalonog sy'n amrywio o gawl cartref a brechdanau i Frecwast Cymreig traddodiadol a'r 'Byrgyr Arbennig Stiniog arbennig (nid ar gyfer y gwangalon!)
Mae bwydlen frecwast a chinio llawn ar gael trwy'r dydd, ynghyd â detholiad o gacennau cartref, te a choffi.

Oes yna siop ar y safle? 
Oes, gydag amrywiaeth o gynhyrchion o safon ar gyfer eich holl anghenion beicio mynydd gan frandiau yn cynnwys Burtec, 100%, Maxxis a mwy, yn ogystal â rhai o’n dillad brand ein hunain.

Oes yna isafswm oedran ar gyfer beicio gydag Antur Stiniog?
I feicio yn y parc beicio, cyfrifoldeb y rhiant neu'r gwarcheidwad yw penderfynu a all beiciwr ifanc feicio’r llwybrau. Rhaid i warcheidwad fod gyda phob beiciwr 16 oed ac iau bob amser. Does dim isafswm oedran i feicio ar y Trac Naid yma yn Antur Stiniog.
Nid oes isafswm oedran i reidio'r Trac Pwmp yma yn Antur Stiniog.

Ydy beiciau plant yn ffitio ar y trelar cludo?
Ydynt! Bydd beiciau plant gydag olwynion 14 modfedd diamedr neu fwy yn ffitio ar y trelar. Cofiwch fod angen i warcheidwad feicio gyda phlant 16 oed ac iau.

Ydych chi'n gwerthu talebau rhodd?
Ydan. Mae'r holl dalebau rhodd ar gael i'w prynu yn y Siop a gellir eu defnyddio wrth dalu am gludo beiciau neu i brynu rhywbeth ar-lein.

Alla i ddod â grwpiau i Antur Stiniog a'u harwain a'u hyfforddi?
Nid yw Antur Stiniog yn caniatáu tywys masnachol ar y safle. Fodd bynnag, os ydych yn trefnu grŵp a hoffai gael eu harwain, cysylltwch ag info@pedalmtb.co.uk
 
A oes angen arfwisg corff arnaf a helmed wyneb llawn?
Mae helmed wyneb llawn yn orfodol ar y llwybrau lawr allt du er ein bod yn argymell yn gryf y dylid defnyddio arfwisg corff, gogls a helmed wyneb llawn ar ein holl lwybrau.
 
Sawl rhediad ga i mewn diwrnod o’r gwasanaeth cludo?
Bydd hyn yn dibynnu ar ba mor dda rydych chi'n amseru eich teithiau lawr allt/seibiannau/cinio. Gallwch gael hyd at 20 rhediad os ydych chi'n frwd iawn ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael tua 10-15.  
 
Alla i wthio neu feicio i fyny?  
Nid yw’r parc ond yn cludo beiciau i fyny ac felly nid ydym yn caniatáu gwthio na beicio i fyny’r llwybrau. Sylwch hefyd fod y parc yn eiddo preifat ac nad yw'n agored i'r cyhoedd ar ddiwrnodau lle nad yw’r gwasanaeth cludo yn gweithredu.
 
Alla i reidio beic trydan yn Antur Stiniog?
Cewch. Mae croeso ichi ddefnyddio beiciau trydan ar y llwybrau cyn belled â'u bod yn defnyddio'r gwasanaeth cludo. Nid oes dewis beicio i fyny ar gyfer beiciau trydan ar gael ar hyn o bryd.
Rhaid i feiciau trydan a ddefnyddir yn Antur Stiniog:
- Gael modur sydd â phŵer o ddim mwy na 250w
-Fod ag uchafswm cyflymder a gynorthwyir (h.y. y cyflymder ble bydd cymorth modur yn peidio yn awtomatig) o ddim mwy na 25 kilomedr yr awr (tua 15.5 mya).
- Ddim fod wedi ei ffitio â sbardun cyflymder llawn sy'n gallu gweithio'n 'annibynnol' (hynny yw, heb fod y pedalau’n troi).  
Sylwch, i reidio beic trydan mae'n rhaid i chi fod yn 14 oed neu'n hŷn yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig.

Beth yw eich oriau agor?
Gweler ein tudalen Archebu ar-lein ar gyfer ein horiau agor yn yr haf a'r gaeaf.
 
Alla i feicio y tu allan i’r oriau agor?
Na chewch, mae'r safle ar gau y tu allan i oriau agor y ganolfan.
 
Parcio
Mae parcio am ddim ar y safle ar gael i bob beiciwr. Yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 presennol, sicrhewch eich bod yn gadael digon o bellter rhwng cerbydau eraill. Ni chaniateir parcio dros nos.  
 
Faint o’r gloch mae'r maes parcio'n cau?
Mae'r maes parcio’n cau (a'r giât yn cael ei chloi) am 6yh.
 
Alla i wersylla ar y safle? 
Dydym ni ddim yn caniatáu unrhyw wersylla dros nos ar y safle. Mae sawl maes gwersylla o fewn radiws o 10 milltir. 
 
Oes yna unrhyw wersylloedd/gwely a brecwast/gwestai lleol y gallwch eu hargymell?
Mae'r holl wybodaeth am lety ar gael ar ein tudalen Llety. i'w gael yma>
 
Nid wyf wedi cael cadarnhad o fy archeb.

Gwiriwch eich blwch sgrwts cyn i chi anfon e-bost atom ni. Os na allwch chi ddod o hyd iddo, byddwn yn ail-anfon y cadarnhad atoch chi. 
 
Sut bethau yw'r llwybrau?
Parc Beicio ydym ni, ac mae'r llwybrau'n adlewyrchu hyn. Mae glas yma yn fwy technegol na Glas XC. Mae ein llwybrau yn gweddu orau i feic mynydd cyflawn ond maent yn dal yn hwyl i'w reidio ar feiciau eraill.
Mae amrywiaeth o lwybrau o wyrdd i ddu gyda llwybr i bob gallu. Mae arwyneb i bob llwybr (ar wahân i’r Bendigeidfran) ac maent yn frith o greigiau! Cynghorir defnyddio arfwisg corff bob amser. Bydd arwynebau'n newid gyda'r tywydd - weithiau mae hynny'n golygu eu bod yn llychlyd ac yn rhydd ac ar adegau eraill yn llithrig ac yn wlyb.
 
Pa lwybr ddylwn i feicio arno yn gyntaf?
Dechreuwch ar y Plwg a Phlu (gradd werdd) i gynhesu dipyn ac yna rhowch gynnig ar y Jymper a’r Shafft. Cewch eich briffio wrth gyrraedd gan aelod o staff wrth y ddesg gofrestru ynglŷn â graddiant llwybrau a sut i feicio, yn ogystal â'n holl reolau a phrotocolau Covid-19.
 
Alla i reidio fy meic hongiad blaen fy hun yn y parc?
Gallwch, ond bydd yn llawer mwy o hwyl ar feic hongiad llawn neu feic wedi ei llogi gennym ni. .
 
Pa feic ddylwn i ddod ag ef?
Mae beic llwybr gyda 140-160mm o hongiad yn berffaith, ond gellir beicio hefyd ar feiciau XC, hongiad blaen, neu rigiau DH. Mae gennym lwybrau ar gyfer pob beic yn Antur Stiniog.
 
Alla i logi beiciau ar y diwrnod?
Gallwch, os oes gennym ni nhw. Os ydych chi eisiau gwarant o feic mae'n rhaid i chi archebu ymlaen llaw. Bydd angen dogfen adnabod gyda llun arni ar ddiwrnod y llogi.
 
Allwch chi fy ychwanegu at y rhestr bostio?
Gallwch ymuno â'r rhestr bostio yn ystod y 'Checkout'
 
Beth am blant (O DAN 18 oed)?
Rhaid i blant 16 oed ac iau gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol (dros 18 oed) bob amser ar y safle.
Mae angen i bawb o dan 18 oed ofyn i warcheidwad lofnodi ei ffurflen derbyn risg.
 
A ganiateir cŵn yn y Parc Beicio?
Caniateir cŵn ar dennyn yn yr ardaloedd o amgylch y ganolfan ymwelwyr ond ni chaniateir nhw yn y ganolfan, ar y llwybrau beicio gyda beicwyr, neu yn y bysiau.
 
Canslo eich cludiad 
Os oes rhaid i ni ganslo neu newid eich archeb cludo - weithiau bydd pethau na allwn eu rheoli fel y tywydd neu resymau gweithredol yn ein gorfodi i ganslo ar fyr rybudd. Yn ystod misoedd y gaeaf os yw'r ffyrdd yn rhy beryglus i yrru arnynt oherwydd eira/rhew bydd yn rhaid i ni ganslo oherwydd pryderon diogelwch. Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosib i chi a byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi neu'n trosglwyddo eich archeb i ddyddiad arall lle bydd y gwasanaeth cludo yn gweithredu. Ni fydd Antur Stiniog Cyf yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb ariannol am unrhyw gostau eraill a ysgwyddir am y canslo hwn (er enghraifft costau teithio/costau llety). Mae'n bwysig bod y rhif cyswllt a'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych wrth archebu lle yn fanylion cywir er mwyn gallu cael gafael arnoch os bydd angen i ni ganslo. Gwiriwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, eich negeseuon e-bost a negesau testun cyn i chi adael y tŷ.

Please do note, rain and wind do not affect our service and we will not cancel for these conditions unless deemed dangerous by our Site Manager. At times if there is no one booked on for a 'full days' uplift then Antur Stiniog Cyf reserve the right to close the service for that day - please refer to the 'Book online’  page to check. If you have to cancel or change your uplift booking. If you wish to cancel or transfer your ‘uplift’ booking to another date, this can be done free of charge up to 7 days before your uplift day.
O fewn 7 diwrnod cyn eich diwrnod cludo, os ydych yn dymuno canslo eich archeb 'cludo', bydd yn rhaid talu ffi canslo o £10 y person. Os ydych yn dymuno ei drosglwyddo i ddiwrnod arall, bydd hyn yn amodol ar ffi weinyddol o £5. Ni roddir ad-daliad am unrhyw archebion cludo a ganslwyd 48 awr cyn yr amser defnyddio. Gellir newid enw ar yr archeb yn rhad ac am ddim hyd at 24 awr cyn y cludiad. Ar ôl hynny, bydd taliadau canslo yn berthnasol.
 

2023 Cedwir Pob Hawl     Gwefan gan DMC