Ein prosiect newydd ar gyfer 2021 wedi ei ariannu gan Chwaraeon Cymru yw'r clwb plant sydd newydd ei ffurfio yn Antur Stiniog. Fe'i sefydlwyd yn y Parc Beicio i roi cyfle i blant lleol bro Ffestiniog ddefnyddio a mwynhau'r hyn y mae Antur Stiniog wedi'i greu ar y safle yma yn y parc beicio. Rhan fawr o hyn yw datblygu eu sgiliau beicio mewn amgylchedd dysgu diogel a strwythuredig a darparu sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel. Y nod yn y pen draw yw meithrin beiciwr mynydd lawr allt o'r ardal allai fod yn bencampwr y byd yn y dyfodol.
Fel Cwmni cymunedol lleol, mae hwn yn gyfle gwych i gynnig cyfle nid yn unig i bobl ifanc brofi a datblygu eu sgiliau beicio ond hefyd i greu cyfeillgarwch, herio eu hunain a magu hyder.